Y Rhaglen a'n Cenhadaeth
Mae Dyfodol Ni yn Bartneriaeth o sefydliadau sy’n ffocysu ar ieuenctid a gweithwyr proffesiynol ymddiriadwy ar draws Ceredigion. Wedi’i ariannu gan Raglen Meddwl Ymlaen Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Dyfodol Ni wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig, wedi’u cyd-gynhyrchu, gan roi pobl ifanc ar y blaen i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ac ymyriadau i bobl ifanc yn y sir. Bydd y rhaglen yn rhedeg tan fis Mawrth 2028.
Yr ethos sydd wrth galon Partneriaeth Ceredigion fydd gwrando ar bobl ifanc. Byddwn yn darparu cyfleoedd iddyn nhw fynegi eu hunain, i lunio cyfeiriad y rhaglen, a chyd-gynhyrchu gweithgareddau yn y dyfodol i wella gwydnwch ac iechyd meddwl pobl ifanc ar draws Ceredigion gyfan. Felly, drwy ymgysylltu ac ymgynghori â phobl ifanc, bydd rhaglen Dyfodol Ni yn gweithio gyda phobl ifanc i fynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn uniongyrchol.
Daeth y cyfnod datblygu i ben ym mis Awst 2023, a bydd y rhaglen bellach yn gweithio i gyflawni’r cynllun i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc Ceredigion, dan arweiniad y bobl ifanc eu hunain ar bob cam.
Crëwyd Addewid Partneriaeth Dyfodol Ni gan bobl ifanc er mwyn gosod cytundeb sefydliadau partner i gynnal ffocws ieuenctid gweithgareddau'r Bartneriaeth.
Mae sefydliadau’n cytuno i sicrhau’r canlynol:
Dan arweiniad ieuenctid
Mae lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig iddyn nhw. Gallant ddefnyddio’r gwasanaeth a ffefrir ganddyn nhw i feithrin annibyniaeth ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a arweinir gan bobl ifanc, gan annog ymgysylltiad a brwdfrydedd yn yr hyn a wnawn. Mae gwasanaethau’n ymateb i anghenion pobl ifanc leol, tel y’u diffinnir ganddyn nhw, gan gynnig cymorth hygyrch lie bynnag y mae’n bosibl, gyda chymorth wedi’i dargedu i’r rhai sy’n cael eu hystyried eu bod mewn mwy o berygl, dan anfantais neu ag anghenion uwch.
Cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth
Wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion, mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cynnwys yn eu hardal leol a gallant Igael mynediad i’r cymorth y maen nhw’n penderfynu sydd ei angen arnyn nhw. Ni ddylent deimlo’n ynysig nae yn wahanol oherwydd dewis iaith, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, cenedligrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, anghenion addysgol arbennig, materion iechyd meddwl, crefydd neu unrhyw nodwedd arall. Dylai’r gwasanaethau ieuenctid lleol helpu i wella amgylchiadau bywyd pobl ifanc o bob cefndir fesul cynnig cymorth i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau sydd eu hangen arnyn nhw i gael mynediad at gyfleoedd a manteisio arnyn nhw.
Parch
Caiff anghenion a dymuniadau pobl ifanc lleol eu hystyried lawn cymaint ag unrhyw grŵp cymunedol arall. Dylent deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae ieuenctid lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan yn eu cymunedau a mwynhau cyfleoedd yn eu hardal heb boeni am tarn neu stereoteipio negyddol.
Ansawdd, diogelwch a llesiant
Darperir gwasanaethau mynediad agored o ansawdd da gan staff â hyfforddiant diogelu sydd a chysylltiadau â chymorth pellach os oes angen. Mae ein gwasanaethau yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel ac yn cefnogi eu hiechyd meddwl, emosiynol a chorfforol, yn gwella eu llesiant cymdeithasol ac economaidd. Mae’n sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg, dysgu anffurfiol a gweithgareddau o’u dewis.
Grymuso
Mae gwasanaethau’n rhoi grym i bobl ifanc i symud ymlaen ac ymgysylltu â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ac i gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol. Gwrandewir ar bobl ifanc a gallant wneud newidiadau cadarnhaol i’w cymunedau, a deall sut i ymgysylltu â gwneud dewisiadau.
Positifrwydd
Canolbwyntia gwasanaethau ar ddod â’r gorau allan o bob unigolyn, gan eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau a’u priodoleddau, yn hytrach na cheisio ‘trwsio problem’.