S3 Safle Saff i Siarad Logo 4x2 - Dyfodol Ni

Cynllun Cyflwyno: S3 Safle Saff i Siarad

Yn dilyn ymgynghoriad, nododd yr YPMC fod y mwyafrif o bobl ifanc eisiau teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli, a bod pobl mewn grym sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, yn gwrando arnyn nhw. Wedi’i ysgogi gan y galw hwn, bydd yr YPMC yn sefydlu Safe Space to Speak/ Safle Saff i Siarad (S3), grŵp cynrychioliadol ar gyfer pobl ifanc ar wahân i strwythurau pwer traddodiadol, sydd, o’r dechrau’n deg, yn cael ei arwain gan bobl ifanc. Nodir ei nodau cyffredinol yn eu Maniffesto, gyda ffocws ar ymgyrchu dros newid systemig er budd pobl ifanc.

Prif dasg S3 fydd ymgyrchu am wasanaethau gwell i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Mi fydd yn dechrau yng Ngheredigion, ond mae ei nodau yn llawer mwy pellgyrhaeddol. Mae S3 am greu model y gall siroedd a sefydliadau eraill ei ddilyn, yn enwedig o ran eu golygfa ddelfrydol o safleoedd saff.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy